Mae golchdy pwrpasol ar y safle ac fe gaiff ei staffio 7 diwrnod yr wythnos gydol y flwyddyn er cysur a chyfleustra ein preswylwyr.
Bydd triniwr gwallt yn ymweld â’r cartref bob wythnos ac fe gynigir ystod eang o wasanaethau trin gwallt i bob preswylydd sy’n dymuno talu am y gwasanaeth. Mae swît trin gwallt wedi’i chynllunio’n benodol ar lawr cyntaf y cartref i’r pwrpas hwn.
Bydd ein hymarferydd iechyd traed cymwysedig yn ymweld o leiaf bob chwe wythnos. Caiff preswylwyr eu cyfeirio at yr ymarferydd iechyd traed gan staff gofal a rheolwyr yn unol ag anghenion unigol. Gwasanaeth preifat yw hwn a rhaid talu’n unigol amdano.
Pan fyddwch yn cael eich derbyn i Glyn Nest, fe fyddwn yn eich cofrestru chi gyda’r feddygfa leol. Mae ein cysylltiadau gyda’r feddygfa leol, y nyrsys ardal a’r fferyllfa yn wych.
Bydd optegwyr cymwysedig yn ymweld â’r cartref yn rheolaidd.
Cynhelir gwasanaethau Cristnogol yn rheolaidd ac fe geir gwasanaethau gan gapeli lleol yn aml. Gweinyddir cymundeb yn fisol. Cynhelir gwasanaethau arbennig hefyd ar ddydd Nadolig a Sul y Pasg.
Caiff y gwasanaeth hwn, sy’n cael ei redeg gan y Pwyllgor Tŷ, ei gynnig unwaith y mis. Rhydd gyfle i’r preswylwyr brynu melysion.
Mae digon o le parcio ar gael y tu ôl i’r cartref.
Y tu cefn i’r Cartref sefydlwyd Gardd Synhwyrau i’r deiliaid gael eistedd allan yn yr haul. Mae yna ddwy fainc dan gysgod, blodau a llwyni hardd, ffynnon fechan a blwch post. Ceir nifer o feinciau o gwmpas yr eiddo hefyd.