Darperir lle ar gyfer 28 unigolyn mewn ystafelloedd gwely unigol yn y Cartref. Darperir gofal hir-dymor ar gyfer unigolion o unrhyw ryw dros 65 oed sydd ag anghenion gofal meddwl neu gorfforol isel neu gymedrol yn dilyn asesiad anghenion gofalus cyn mynediad.
Mae’r cartref yn darparu cyfleuster 24 awr ac mae’r staff yn gweithio ar system rota. Ymddiriedir y cyfrifoldeb o ddiwallu anghenion pob unigolyn i’r staff drwy ddarparu’r gofal gorau posibl iddynt o fewn amgylchedd cysurus.
Mae Glyn Nest yn gweithredu cynllun gweithiwr allweddol lle neilltuir aelod o staff i bob unigolyn, mae hyn yn ychwanegu elfen bersonol i’r gofal.
Byddwn yn cymryd gofynion rhesymol gan ddefnyddiwr gwasanaeth ynghylch dewis rhyw eu gweithiwr gofal i ystyriaeth a bydd cofnodion addas o’r cyfryw geisiadau yn cael eu cadw yn y cynllun gofal.
Fe fyddwn yn ystyried unrhyw ofynion gan yr unigolyn parthed eu dewis o ryw y gweithiwr gofal ac fe wneir cofnod priodol o’r gofynion rhain yn eu cynllun gofal.
Mae’r unigolyn cyfrifol o’r pwyllgor rheoli yn goruchwylio gweithrediad y cartref yn reolaidd.
Care Inspectorate Wales Annual Return 2026Download